Zechariah 9

Duw yn barnu a bendithio cymdogion Israel

1Y neges roddodd yr Arglwydd
am ardal Chadrach,
yn arbennig tref Damascus.
(Mae llygad yr Arglwydd ar y ddynoliaeth
fel mae ar lwythau Israel i gyd.)
2Ac am Chamath, sy'n ffinio gyda Damascus,
a Tyrus a Sidon
9:2 Tyrus a Sidon trefi ar arfordir Phenicia.
hefyd,
sy'n meddwl ei bod mor glyfar.
3Mae Tyrus wedi gwneud ei hun mor gryf
ac mor gyfoethog b – mae wedi pentyrru
arian fel pridd, ac aur fel baw ar y strydoedd!
4Ond bydd y Meistr yn cymryd y cwbl,
ac yn suddo ei llongau yn y môr.
Bydd tref Tyrus yn cael ei llosgi'n ulw!
5Bydd Ashcelon yn gweld hyn ac yn dychryn.
Bydd Gasa yn gwingo mewn ofn;
ac Ecron hefyd wedi anobeithio'n llwyr.
Bydd brenin Gasa yn cael ei ladd,
a fydd neb ar ôl yn Ashcelon.
6A bydd pobl o dras cymysg yn setlo yn Ashdod.
9:5,6 Ashcelon … Gasa … Ecron … Ashdod trefi'r Philistiaid, oedd mewn cynghrair gyda Tyrus.

Dw i'n mynd i dorri crib y Philistiaid!
7Yna wnân nhw byth eto
fwyta dim gyda gwaed ynddo d,
na chig wedi ei aberthu i eilun-dduwiau.
Bydd y rhai sydd ar ôl yn Philistia
yn dod i gredu yn ein Duw –
byddan nhw fel un o deuluoedd Jwda.
A bydd pobl Ecron fel y Jebwsiaid.
9:7 Jebwsiaid Pobl Jerwsalem cyn i Dafydd goncro'r ddinas (gw. 2 Samuel 5:6-10). Cawson nhw aros a dod yn rhan o Israel (Josua 15:63; Barnwyr 1:21; 1 Brenhinoedd 9:20-21).

8Bydda i'n gwersylla o gwmpas y deml,
i'w hamddiffyn rhag y byddinoedd sy'n mynd a dod.
Fydd neb yn ymosod ar fy mhobl
i'w gormesu nhw byth eto.
Dw i fy hun yn gofalu amdanyn nhw. f

Y brenin sydd i ddod

9Dathlwch bobl Seion!
Gwaeddwch yn llawen, bobl Jerwsalem!
Edrych! Mae dy frenin yn dod.
Mae e'n gyfiawn ac yn achub;
Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asyn,
ie, ar ebol asen.
10Bydda i'n symud y cerbydau rhyfel o Israel,
9:10 Israel Hebraeg, “Effraim”, sef prif lwyth teyrnas Israel, yn aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.

a mynd â'r ceffylau rhyfel i ffwrdd o Jerwsalem.
Bydd arfau rhyfel yn cael eu dinistrio!
Yna bydd y brenin yn cyhoeddi heddwch i'r gwledydd. h
Bydd yn teyrnasu o fôr i fôr,
ac o'r Afon Ewffrates i ben draw'r byd! i
11Yna chi, fy mhobl – oherwydd yr ymrwymiad
rhyngon ni, wedi ei selio â gwaed
9:11 ymrwymiad … gwaed Yr ymrwymiad ar Fynydd Sinai (gw. Exodus 24:7,8).

dw i'n mynd i ryddhau eich carcharorion
o'r pydew oedd heb ddŵr ynddo.
12Dewch adre i'r gaer ddiogel,
chi garcharorion – mae gobaith!
Dw i'n cyhoeddi heddiw eich bod i gael
popeth gollwyd yn ôl – dwywaith cymaint!
13Jwda ydy'r bwa dw i'n ei blygu,
ac Israel
9:13 gw. adn.10
ydy'r saeth.
Bydda i'n codi dy bobl di, Seion,
yn erbyn gwlad Groeg.
Bydd Seion fel cleddyf rhyfelwr
yn fy llaw.
14Yna bydd yr Arglwydd i'w weld
uwchben ei bobl,
a'i saeth yn tanio fel mellten.
Bydd y Meistr, yr Arglwydd, yn chwythu'r corn hwrdd
9:14 corn hwrdd Hebraeg, “shoffar”
,
ac yn ymosod fel gwynt stormus o'r de.
15Bydd yr Arglwydd holl-bwerus
yn amddiffyn ei bobl.
Byddan nhw'n concro'r gelyn gyda ffyn tafl,
ac yn gwledda a dathlu fel meddwon.
Bydd fel y gwaed o bowlen yr aberth
yn cael ei sblasio ar gyrn yr allor.
16Bryd hynny, bydd yr Arglwydd eu Duw
yn eu hachub, am mai nhw ydy praidd ei bobl.
Byddan nhw'n disgleirio ar ei dir
fel cerrig gwerthfawr mewn coron –
17Mor werthfawr! Mor hardd!
Bydd ŷd a sudd grawnwin yn gwneud
y dynion a'r merched ifanc yn gryf.
Copyright information for CYM